Cymdeithas Gwenynwyr Meirionnydd

Dydd Mawrth Ebrill 20, 2010

Gofynnwyd am dywydd cynhesach ac fe'i cafwyd!. Dydd Sadwrn 10fed Ebrill cyrhaeddodd y tymheredd 16ºC a chawsom archwilio'r cwch. I ddechrau, canfod fod y bocs mel adawyd ymlaen dros y gaeaf (heb atalydd brenhines odano), a'i draean yn llawn o fel, a heb wyau. Edrychasom yn y ddeorfa a chael unwaith eto fod mel yn y fframiau allanol, a digon o baill, wyau a chynrhon yn nes i mewn. Rhoesom atalydd brenhines rhwng y ddau focs cyn cau'r cwch.

Ar Ebrill18, edrych eto. Erbyn hyn roedd y bocs mel bron yn hanner llawn; roedd y gwenyn yn weithgar iawn ac yn cario llwythi o baill i mewn. Cawsom gyngor i roi bocs mel ychwanegol ymlaen (dim ond cwyr sylfaen) fel y gall gwenyn weithio'r crwybr - cawn weld sut maen nhw'n gyrru ymlaen y penwythnos yma.

Dydd Mawrth Ebrill 6, 2010

Ers y tro diwethaf mae wedi oeri - 10ºC ar y mwyaf. Rydyn ni wedi parhau i fwydo candi. Mae'r gwenyn i'w gweld yn iach iawn o dop y fframiau. Maen nhw'n casglu llawer o baill melyn ac oren pan yw'n ffafriol.

Photograph

Rydym wedi pwrcasu dau gwch ychwanegol (ail-law) o le gwybyddus ac wedi eu hatgyweirio'n ofalus gan fflam-boethi'r tu mewn i sicrhau glanweithdra; rydyn ni hefyd wedi ail-ddodrefnu efo cwyr sylfaen newydd. Gwnaethom gwch-dal-haid o gynllun a welsom ar y we. Ym misoedd Mai/Mehefin ceisiwn ddal heidiau crwydr yn hwn, a hefyd yn y cwch efo bait fferomon - diddorol fydd gweld unrhyw ganlyniad. Rydym hefyd yn barod i gynyddu'r stoc trwy'r dull o greu haid ffug.

Ond cyn gallu gwneud dim rhaid cael tywydd cynnes!