Dydd Sul 28 Mawrth 2010
Roedd y tywydd yn gyson iawn ddechrau'r mis - llwydrew y nos a haul y dydd. Gwynt digon oer ac ni chododd y tymheredd yn uwch nag 8°C. Dros 7°C, ac roedd y gwenyn yn ddigon prysur yn cario paill lliw oren. Ers hynny, cynhesodd a chawsom beth glaw. Ddechrau'r mis dechreusom fwydo efo sirop siwgwr, ond ar ol cael cyngor fe newidiom i gandi gan y byddent yn llai tebyg o'i storio, ac nas defnyddid (coelio) os na fyddai ei wir angen. Digon o baill yn dod i mewn.
Wedi dal gwenynen gysglyd wrth ffenest agored y ty un pnawn a dyma ei rhoi mewn jar a'i dychwelyd adre trwy ddrws y ffrynt - lle cafodd dderbyniad di-gwestiwn. Dal i ddisgwyl gair o ddiolch!
Dydd Iau 04 Mawrth 2010
Dechreuasom gadw gwenyn ym Mai 2009 gydag un cwch a chnewyllyn o haid. Dechreuwyr hollol ydym ni, yn byw mewn ardal wledig iawn heb gymdogion agos, ac fe fyddwn yn cadw'r Dyddiadur Dechreuwyr yma gan gofnodi llwyddiant a methiant dros y blynyddoedd i ddod. Ychydig o gefndir i ddechrau:
Yn ystod 2009 buom yn bwydo sirop siwgwr i'r gwenyn o dro i dro oherwydd y tywydd ofnadwy. Ddechrau Awst fe lwyddom i wneud archwiliad o'r cwch a darganfod fod y gwenyn wedi lladd y frenhines a dyrchafu un newydd yn ei lle! Doeddem ni ddim yn gallu darganfod y frenines newydd yma, ond roedd hi yno reitiwala gan fod yno egin-gywion ac wyau. Yn gynnar ym Medi rhoesom Apiguard i mewn a thynnu'r bocs mel - oedd yn hollol wag - y fframiau gwer newydd heb eu gweithio o gwbwl, yna dechrau'r bwydo Hydrefol.
Daeth mis Hydref, ac yn sydyn cawsom dros dair wythnos o dywydd cynnes heulog. Roedd y gwenyn yn brysur iawn a rhoesom y bocs mel yn ol ond heb feddwl rhoi atalydd brehines (O! diar.) Yn ystod y tair wythnos, gweithiodd y gwenyn y mwyafrif o'r fframiau gwer gan lenwi ¾ ohonyn nhw efo mel. Gadawsom y bocs mel yno dros y gaeaf ac mae o rwan bron yn wag, mi gredwn, ar ol cymryd cip sydyn. Er mwyn sicrhau y byddant yn goroesi mis Mawrth - dywed y llyfrau mai ym Mawrth yn bennaf y collir gwenyn - rydym wedi dechrau bwydo efo sirop siwgwr. Dros y dyddiau diwethaf bu cryn weithgarwch a gwelwyd paill yn cael ei gario i mewn.
Felly, rydym yn gobeithio gweld diwedd Mawrth llwyddiannus, a rywsut yn gobeithio rhoi atalydd brenhines yn ol ar y bocs deor cyn iddi hi ddechrau dodwy yn y bocs mel! Yn hwyrach ymlaen, pan fydd hi wedi cynhesu, fe geisiwn ddod o hyd i'r frenhines a'i marcio. Rydyn ni hefyd eisiau cael rhagor o gychod trwy'r dull o greu ffug- haid a thrwy ddal heidiau crwydr mewn cychod bait. Mae yna ddigon i'w wneud, a digon o bethau i fynd o chwith hefyd!