Cymdeithas Gwenynwyr Meirionnydd

Dyma restr o lyfrau all fod o ddiddordeb . Mae'r adolygiadau byr yn adlewyrchu barn yr aelod(au) sy'n darllen ac nid o angenrheudrwydd farn y Gymdeithas.

Guide to Bees and Honey - Ted Hooper - Northern Bee Books
Arweinlyfr cyffredinol da ar gadw gwenyn (yn enwedig i ddechreuwyr) ond gan mai yn 1997 y cyhoeddwyd yr argraffiad olaf, nid oes ynddo'r wybodaeth ddiweddaraf ar varroa a mesurau rheoli heintiau.

The Buzz about Bees - Jürgen Tautz - Springer
Llyfr ardderchog ar wenyn a'u bioleg. Gyda lluniau bendigedig. Gwybodaeth gyfyngedig ar gadw gwenyn. Ychydig yn ddrud.

A World Without Bees - Alison Benjamin and Brian McCallum - Guardian Books
Llyfr hawdd ei ddarllen am y problemau presennol sy'n wynebu gwenyn a gwenynwyr ledled y byd a chanlyniadau colli poblogaeth y gwenyn.

Practical Beekeeping - Clive de Bruyn - Crowood Press
Arweinlyfr ardderchog i gadw a rheoli gwenyn - yn enwedig i ddechreuwyr.

The Bee-friendly Beekeeper - David Heaf - Northern Bee Books
Archwiliad trylwyr ar ddull cynaliadwy o gadw gwenyn. Ffocws y llyfr yw'r cwch gwenyn Warré fel modd ymarferol ac economaidd o gadw gwenyn, fel dewis arall i gyc modd ymarferol ac economaidd o gadw gwenyn, fel dewis arall i gychod gwenyn ble y defnyddir fframiau. Y mae'r llyfr yn cynnwys ffotograffiaeth ragorol ac yn ysgogi'r meddwl.