BWYDO GWANWYN EFO CANDI
Nid yw bwydo'n angenrheidiol yn y gwanwyn onibai eich bod yn amau prinder mel yn y cwch. Rydyn ni wedi bod yn cadw gwenyn ers 25 o flynyddoedd ac erioed wedi bwydo yn y gwanwyn tan llynedd, a'r holl son am "golledion gaeaf", felly fe wnaethom gandi a'i fwydo iddyn nhw. Mae'n ddiddorol sylwi arnyn nhw'n bwyta candi gan ei fod yn rhoi syniad clir o faint ac egni'r haid.
Dim ond tameidiau bach a rown ar y tro 75x75x5mm gan aros i hwn gael ei fwyta cyn rhoi rhagor. Gellir gosod y darnau tenau yma ar dop y fframiau deor yn y canol fel eu bod ar gael yn hawdd i'r gwenyn. Dylai'r darnau tenau ffitio i ofod gwenynen neu gellir defnyddio codwr bychan.
Mae candi yn well na sirop yn y gwanwyn i osgoi cyflwyno dwr a gwlybaniaeth i'r cwch. Er hyn, fe fydd candi yn tynnu rhywfaint o wlybaniaeth i'r cwch. Mewn tywydd gwlyb/oer gall candi fynd yn wlyb iawn. Gall hyd yn oed ddechrau diferu gan ladd clwstwr bach, felly dim ond ychydig ar y tro piau hi.
Dechreuir bwydo candi fel arfer yn Chwefror neu Fawrth fel y daw'r gwenyn yn fwy bywiog a gellir parhau i ychwanegu ychydig o hyd nes daw tywydd cynes a blodau ddiwedd Ebrill/Mai.