Dydd Sadwrn 13 Mawrth, 2010

Arweiniodd Clive Hudson, aelod o'n Cymdeithas, drafodaeth ddifyr ar atal heidio. Cyfrannodd aelodau profiadol farn ar y gwahanol ffyrdd o daclo'r pwnc dyrys yma. Dangosodd y nifer o gwestiynau a ofynnwyd gan aelodau newydd mor amserol yw hyn wrth i'r misoedd cynnes agoshau. Mae llawer eto i'w ddysgu am hyn.
Dydd Sadwrn 13 Mawrth, 2010

Siaradodd Dr David Heaf a'r Gymdeithas ar "Gadw Gwenyn yn Gynaladwy" gan ganolbwyntio ar y cwch Warré. Ymchwilydd mewn biocemeg wedi ymddeol ydy Dr Heaf, a gwenynwr, ac mae wedi arbenigo yn y cychod yma ac wedi sgrifennu'n helaeth amdanynt.
Mae'r cychod Warré yn wahanol i gychod gwenyn cyffredin y D.U. gan eu bod yn dynwared yn well y ffordd naturiol y mae gwenyn yn trefnu eu deorfa. Mae'r bocsus i gyd yr un faint, yr uchaf wedi ei orchuddio a sach hesian ac wedi ei inswleiddio a siafins coed neu rywbeth tebyg. Ni ddefnyddir fframiau, dim ond bariau ar y top i ddal crwybrau naturiol.

Bydd y gwenyn yn llenwi'r bocs uchaf yn gyntaf efo crwybr, wy-gelloedd a bwyd ac yna byddant yn symud i lawr i'r bocs nesaf. Ychwanegir bocsus o'r gwaelod. Defnyddir y bocs uchaf i gynaeafu'r mêl. Yn y dull yma cedwir gwres yn y cwch ac aflonyddir cyn lleied a phosib ar y gwenyn.
Am fwy o wybodaeth ceir yma gyswllt i ddull gwenyna Warré.