Sadwrn, Ebrill 17, 2010

Roedd ein "Ymweliad Cartre" cynta'r tymor yn llwyddiant mawr - daeth llawer o aelodau ac roedd y tywydd yn braf. Roedd y swyddog gwenyn lleol yn bresennol ac fe arweiniodd o'r archwilio gyda'r perchnogion.
Cafwyd llawer o gwestiynau ar gynyddu heidiau yn y gwanwyn a rhoddwyd cynghorion ar sut i ddelio efo varroa os yw'r niferoedd yn rhy uchel. Roedd hi'n ddiddorol hefyd gweld sut oedd bocus gwenyn mwy o faint (Smiths) yn cael eu defnyddio, a barnu ai da -ai drwg! Tawel iawn oedd y gwenyn a hyfryd oedd edrych arnyn nhw a gweld sut oedden nhw'n ymateb i'r tywydd braf.
Diolch o galon i'n swyddog, Pete Harwood, ac in gwesteiwyr, Clive a Shan, ac i Liz hefyd am yr ymborth - gwych fel arfer.