Dydd Sadwrn 13 Chwefror, 2010

Siaradodd Dr David Heaf a'r Gymdeithas ar "Gadw Gwenyn yn Gynaladwy" gan ganolbwyntio ar y cwch Warré. Ymchwilydd mewn biocemeg wedi ymddeol ydy Dr Heaf, a gwenynwr, ac mae wedi arbenigo yn y cychod yma ac wedi sgrifennu'n helaeth amdanynt.
Mae'r cychod Warré yn wahanol i gychod gwenyn cyffredin y D.U. gan eu bod yn dynwared yn well y ffordd naturiol y mae gwenyn yn trefnu eu deorfa. Mae'r bocsus i gyd yr un faint, yr uchaf wedi ei orchuddio a sach hesian ac wedi ei inswleiddio a siafins coed neu rywbeth tebyg. Ni ddefnyddir fframiau, dim ond bariau ar y top i ddal crwybrau naturiol.

Bydd y gwenyn yn llenwi'r bocs uchaf yn gyntaf efo crwybr, wy-gelloedd a bwyd ac yna byddant yn symud i lawr i'r bocs nesaf. Ychwanegir bocsus o'r gwaelod. Defnyddir y bocs uchaf i gynaeafu'r mêl. Yn y dull yma cedwir gwres yn y cwch ac aflonyddir cyn lleied a phosib ar y gwenyn.
Am fwy o wybodaeth ceir yma gyswllt i ddull gwenyna Warré.