Croeso cynnes i chi a diolch am droi i'n gwefan. Defnyddiwch y cyswllt ar y chwith i weld dalennau gwahanol. Dyma ein dalen "Adre". Os mai ail-ymweld yr ydych â'n safle, efallai y dymunwch glicio ar "Newyddion" i weld yr hyn a ychwanegwyd neu a newidiwyd.

Cymdeithas fechan o bobol ydyn ni sy'n mwynhau cadw gwenyn ( a mêl, wrth gwrs). Rydym yn hunan-gynhaliol ac yn cwrdd yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn (gweler "Digwyddiadau").
Rydym yn awyddus i ddenu aelodau newydd yn enwedig dechreuwyr. Os ydych yn ystyried ymuno, cliciwch ar "Cysylltwch â Ni" i gael gwybod mwy.
Nid Meirionnydd yw'r lle hawsaf i gadw gwenyn. Gall fod yn wlyb a gwyntog, sy'n amharu ar allu'r gwenyn i gasglu mêl a phaill, ond ar y llaw arall mae agosrwydd y grug ar y bryniau a'r mynyddoedd yn gallu sicrhau peth o'r mêl gorau ar ddiwedd haf. Mae'r Gymdeithas yn annog cadw gwenyn lleol, sy'n dueddol o fod yn dywyllach na gwenyn ardaloedd cynhesach o'r D. U. Mantais cadw'r gwenyn hyn yw eu bod yn wytnach (ac o bosib yn gryfach i wrthsefyll clefydau) na'u cefndryd, ac yn fwy cysurus yn ein hinsawdd ni.
Defnyddiwn y rhan fwyaf o'r mathau poblogaidd o gychod gwenyn: National, WBC, Langsthrop a Smith - y National y mwyaf poblogaidd. Mae eu rhinweddau yn arwain at ddadlau brwd - yn ol yr arfer cyffredin ymysg gwenynwyr!
Ar "Ymweliadau Cartre" yn ystod y misoedd cynhesaf byddwn yn cwrdd i edrych ar wenyn a chychod aelodau yn eu cynefin "naturiol", ac yn trafod y cyfleoedd a'r sialensau sy'n wynebu gwenynwr. Fel hyn caiff dechreuwyr gyfle i ennill profiad ymarferol o drafod gwenyn.
15 Mai 2011 - Cliciwch ar y ddolen hon ar gyfer Ffair Egin Gwyrdd, Penrhyndeudraeth
06 Mai 2011 - Gweler rhaglen S4C 'Byw yn yr Ardd' gyda aelod CGSF Carys Edwards (ar 7.30 munud)
Dydd Sadwrn 26 Tachwedd 2011 - Neuadd Bentref, Llanelltyd - Cyfarfod Blynyddol a Chris Hickman ar gadw cwch gwenyn 'Warre' y flwyddyn hon. Digwyddiadau
Os oes gennych haid o wenyn ac eisiau cael gwared ohono, gwelwch y dudalen Cysylltwch â Ni .