Cymdeithas Gwenynwyr Meirionnydd

Dydd Gwener 22 Ionawr 2010

Ffotograff

C,H. yn sgrifennu: "Gwisgais fy siwt wenynna am y tro cyntaf eleni! Am 2.30 pm roedd yn 10ºC yn y cysgod ond yn 19ºC wedi gosod y thermomedr yn yr haul. Roedd gwenyn yn hedfan o bob cwch, a dangosodd cipolwg o dan y coronfwrdd fod y gwenyn yn fywiog iawn (gweler "Tudalen Lluniau 2010") Roedd y clwstwr yn llechu yn is na top y fframiau magu, a'r math dwfn o fframiau sydd gen i. Gellir cael amcan o faint y clwstwr wrth graffu rhwng y fframiau. Roedd y fframiau'n "ddigon trwm" o fwyd. Mae llai o wenyn yn un, ond waeth heb nag ymhwilio i hynny gan ei bod hi'n rhy fuan yn y flwyddyn i allu gwneud dim am hynny; mae'n siwr y bydd popeth yn iawn."

J.T. yn sgrifennu: "Roedd ein gwenyn ninnau hefyd yn fywiog iawn o tua 11.00 am i 3.00pm (tymheredd yma 8ºC) Wedi sbio i mewn i'r cwch (yn frysiog iawn) - mae'n ymddangos fod digon o fwyd yn y fframiau. Calonogol iawn ar ol eira, rhew iasol a storm neu ddwy!"