Cymdeithas Gwenynwyr Meirionnydd

Dydd Iau 04 Mawrth 2010

Photograph

C.H. yn sgrifennu: Aethom i roi ¼ pwys o gandi ar bob un o'r cychod a darganfod dwy broblem. I ddechrau, roedd un cwch wedi marw allan -yn amlwg wedi gwanhau a dim ond ychydig o wenyn yn hedfan bellach. Golygfa drist oedd hon, a'r frenhines a farciwyd i'w gweld yn amlwg ymysg y cyrff. Rydw i wedi anfon sampl i'r Uned Wenyn Genedlaethol a bydd eu sylwadau yn ddiddorol.

Photograph

Yn ail, roedd cwch arall wedi ei daro oddi ar ei stondin gan ddafad. Roedd ar ei ochr ers wythnos a'r fframiau deor yng ngafael y nosweithiau rhewllyd. Roedd y gwenyn, fodd bynnag, yn iawn a llawer o baill yn cael ei gario i mewn a'i roi yn y fframiau! Ar ol rhoi'r cwch yn ol ar ei stondin roedd popeth yn iawn.