Cymdeithas Gwenynwyr Meirionnydd

Top Tips for March....

  • Edrychwch ar weithgaredd y gwenyn tu allan i'r cwch. Dylai'r gwenyn rwan fod yn casglu paill, ac ychydig o neithdar efallai. Bydd llwythi cyson yn y basgedi paill ar ddiwrnod braf yn arwydd bod y ddeorfa'n llewyrchus.
  • Dyma'r mis pryd y gall gwenyn farw o newyn, felly bwydwch gyda candi (gweler "Cynghorion Da" am Candi) neu gyda hylif siwgwr os oes rhaid
  • Os bydd hi'n ddigon cynnes, tsieciwch yr wy-gelloedd a'r stor, ond gwyliwch rhag oeri'r wyau. Yn ddelfrydol, arhoswch nes bydd hi'n 16ºC yn y cysgod
  • Mewn cychod cryfion, prysur gallwch dynnu'r giard llygod yn hwyrach yn y mis.

Cynghorion da ychwanegol....

  • Mae'r tywydd rhewllyd presennol yn amser da i symud cychod os oes angen. A'r tymheredd yn agos i 0ºC gellir symud cychod lai o bellter nag sy'n bosib yn yr Haf - hyd yn oed un metr - a bydd y gwenyn yn gallu ail-gyfeirio yn iawn pan hedant allan. Gwisgwch benrhwyd rhag ofn i rai ddod allan!

Cynghorion, Rhagfyr mis Chwefror....

  • Chwiliwch am varroa disgynnol a defnyddiwch asid lactig neu oxalic os oes angen
  • Sicrhewch fod y cyfarpar atal difrodwyr yn eu lle yn enwedig ar ôl gwynt
  • Sicrhewch nad yw'r fynedfa wedi ei chau gan eira neu sbwriel megis gwenyn meirw
  • Ystyriwch sut y gallwch wella eich sgiliau erbyn 2010.